1. “At eu cyd-genedl, Iddewon yr Aifft, oddi wrth eu cyd-genedl, Iddewon Jerwsalem a gwlad Jwdea, cyfarchion a thangnefedd helaeth.
2. Bydded i Dduw eich llesáu chwi, a chadw mewn cof ei gyfamod â'i weision ffyddlon, Abraham, Isaac a Jacob;
3. a bydded iddo osod bryd pob un ohonoch ar ei addoli ac ar wneud ei ewyllys yn frwdfrydig ac o wirfodd calon.
4. Bydded iddo agor eich calonnau i'w gyfraith a'i orchmynion, a rhoi ichwi dangnefedd,
5. gan ateb eich deisyfiadau ac ymgymodi â chwi a pheidio â'ch gadael yn amddifad yn amser adfyd.
6. Yr awr hon, yn y lle hwn, yr ydym yn gweddïo drosoch chwi.
7. Yr ydym ni'r Iddewon eisoes wedi ysgrifennu atoch yn y flwyddyn 169, pan oedd Demetrius yn teyrnasu, yng nghyfnod anterth yr erledigaeth a ddaeth arnom yn y blynyddoedd hynny wedi i Jason a'i ddilynwyr gefnu ar achos y wlad sanctaidd a'r deyrnas,
8. a gosod cyntedd y deml ar dân a thywallt gwaed dieuog. Yna deisyfasom ar yr Arglwydd, ac atebwyd ein gweddi. Offrymasom aberth a blawd gwenith, a chynnau'r lampau a gosod y torthau cysegredig.
9. Ac yn awr yr ydych chwi i ddathlu dyddiau Gŵyl y Pebyll ym mis Cislef. Dyddiedig y flwyddyn 188.”
10. “Pobl Jerwsalem a Jwdea, y senedd a Jwdas, at Aristobwlus, athro'r Brenin Ptolemeus ac aelod o linach yr offeiriaid eneiniog, ac at Iddewon yr Aifft, cyfarchion ac iechyd i chwi.
11. Mawr yw'r peryglon yr achubwyd ni rhagddynt gan Dduw, a mawr yw ein diolch iddo, fel byddin y mae ei rhengoedd yn barod i wrthsefyll y brenin.
12. Ef a fwriodd allan y fyddin oedd yn barod i ymosod ar y ddinas sanctaidd.
13. Oherwydd pan aeth eu cadfridog i Persia gyda byddin a oedd i bob golwg yn anorchfygol, fe'u torrwyd yn ddarnau yn nheml Nanaia trwy weithred ystrywgar offeiriaid Nanaia.
14. Daeth Antiochus gyda'i Gyfeillion i'r deml i briodi'r dduwies, er mwyn cymryd ei chyfoeth enfawr fel gwaddol.
15. Dangosodd offeiriaid teml Nanaia y trysor iddo, ac aeth ef gydag ychydig o ddilynwyr i mewn trwy'r mur oedd o amgylch y fangre. Cyn gynted ag y daeth Antiochus i mewn i'r cysegr, clodd yr offeiriaid y dorau
16. ac agor drws cudd yn un o baneli'r nenfwd, a bwrw arnynt gawod o gerrig. Wedi llorio'r cadfridog fel un a drawyd gan fellten, aethant ati i'w darnio a thorri eu pennau i ffwrdd a'u lluchio i'r bobl y tu allan.