2 Ioan 1:9-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. Pob un sy'n mynd rhagddo heb aros yn nysgeidiaeth Crist, nid yw Duw ganddo; y sawl sydd yn aros yn y ddysgeidiaeth, y mae'r Tad a'r Mab ganddo.

10. Os daw rhywun atoch heb ddod â'r ddysgeidiaeth hon, peidiwch â'i dderbyn i'ch tŷ na'i gyfarch ef,

11. oherwydd y mae'r sawl sy'n ei gyfarch yn gyfrannog o'i weithredoedd drygionus.

12. Er bod gennyf lawer o bethau i'w hysgrifennu atoch, gwell gennyf beidio â'u hysgrifennu â phapur ac inc; rwy'n gobeithio dod atoch, a siarad â chwi wyneb yn wyneb, ac yna bydd ein llawenydd yn gyflawn.

13. Y mae plant dy chwaer etholedig yn dy gyfarch di.

2 Ioan 1