9. Yna trewir â syndod y rhai a fu'n sarhau fy ffyrdd i; mewn poenedigaethau y pery'r rhai a fu'n eu gwrthod yn wawdlyd.
10. Pawb a fethodd f'adnabod yn ystod eu bywyd, er iddynt dderbyn bendithion gennyf;
11. pawb a wawdiodd fy nghyfraith pan oedd eu rhyddid yn dal ganddynt,
12. ac a wrthododd â dirmyg diddeall y cyfle i edifarhau pan oedd o hyd ar gael iddynt—rhaid i'r rhain ddod i'm hadnabod trwy boenedigaeth ar ôl marw.
13. Felly paid â bod yn chwilfrydig mwyach ynglŷn â sut y poenydir yr annuwiol, ond yn hytrach hola sut y caiff y cyfiawn eu hachub, ac i bwy ac er mwyn pwy y mae'r oes newydd, a pha bryd y daw.”
14. Atebais innau: “Yr wyf wedi dweud hyn o'r blaen, rwy'n ei ddweud eto, ac fe af ymlaen i'w ddweud ar ôl hyn:
15. y mae'r rhai a gollir yn fwy eu nifer na'r rhai a achubir,
16. fel y mae ton yn fwy na diferyn o ddŵr.”
17. Atebodd ef fel hyn: “Yn ôl y tir y bydd ansawdd y grawn, yn ôl y blodau y bydd ansawdd eu lliwiau, yn ôl y llafur y bydd ansawdd y cynnyrch, ac yn ôl yr amaethwr y bydd ansawdd y cynhaeaf.
18. Fe fu amser, cyn i'r byd erioed gael ei greu i neb fyw ynddo, pan oeddwn i eisoes yn paratoi ar gyfer y rheini sy'n bod yn awr; ni wrthwynebodd neb fi y pryd hwnnw, oherwydd nid oedd neb yn bod.