2 Esdras 9:5-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. Oherwydd fel y mae i bopeth sy'n digwydd yn y byd ddechrau a diwedd, a'r rheini'n gwbl eglur

6. felly y mae hefyd gydag amserau'r Goruchaf: gwneir eu dechrau yn eglur gan ryfeddodau a gwyrthiau, a'u diwedd gan weithredoedd nerthol ac arwyddion.

7. Pob un a achubir, ac y caniateir iddo ddianc ar gyfrif ei weithredoedd neu'r ffydd a arddelwyd ganddo,

8. caiff hwnnw ei waredu rhag y peryglon a ragfynegwyd, a gweld fy iachawdwriaeth yn fy nhir, o fewn i'r terfynau a gysegrais i mi fy hun ers tragwyddoldeb.

9. Yna trewir â syndod y rhai a fu'n sarhau fy ffyrdd i; mewn poenedigaethau y pery'r rhai a fu'n eu gwrthod yn wawdlyd.

10. Pawb a fethodd f'adnabod yn ystod eu bywyd, er iddynt dderbyn bendithion gennyf;

11. pawb a wawdiodd fy nghyfraith pan oedd eu rhyddid yn dal ganddynt,

12. ac a wrthododd â dirmyg diddeall y cyfle i edifarhau pan oedd o hyd ar gael iddynt—rhaid i'r rhain ddod i'm hadnabod trwy boenedigaeth ar ôl marw.

2 Esdras 9