2 Esdras 9:36-41 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

36. Oherwydd derfydd amdanom ni, bechaduriaid, y rhai a dderbyniodd y gyfraith, a derfydd am ein calon, a fu'n llestr iddi.

37. Ond ni dderfydd am y gyfraith; y mae hi'n aros yn ei gogoniant.”

38. Pan oeddwn yn dweud y pethau hyn ynof fy hun, edrychais o'm cwmpas a gweld ar y dde imi wraig, a honno'n galaru ac yn wylofain â llais uchel, yn drallodus iawn ei hysbryd, ei dillad wedi eu rhwygo, a lludw ar ei phen.

39. Bwriais o'r neilltu y pethau a fu'n llenwi fy meddwl, a throi ati hi a dweud:

40. “Pam yr wyt ti'n wylo? A pham yr wyt yn drallodus?”

41. Atebodd hithau: “F'arglwydd, gad lonydd imi, i wylo drosof fy hun ac i ymollwng i'm galar, oherwydd yr wyf yn chwerw iawn fy ysbryd, a'm darostyngiad yn fawr.”

2 Esdras 9