2. yna byddi'n deall fod yr amser yn wir wedi dod pan yw'r Goruchaf ar fedr barnu'r byd a grewyd ganddo.
3. A phan fydd daeargrynfâu i'w gweld yn y byd, a chynnwrf ymhlith pobloedd, cenhedloedd yn cynllwyn, arweinwyr yn gwamalu a thywysogion yn cynhyrfu,
4. yna byddi'n deall mai dyma'r pethau y bu'r Goruchaf yn eu rhagfynegi o'r dyddiau cyntaf oll.
5. Oherwydd fel y mae i bopeth sy'n digwydd yn y byd ddechrau a diwedd, a'r rheini'n gwbl eglur
6. felly y mae hefyd gydag amserau'r Goruchaf: gwneir eu dechrau yn eglur gan ryfeddodau a gwyrthiau, a'u diwedd gan weithredoedd nerthol ac arwyddion.
7. Pob un a achubir, ac y caniateir iddo ddianc ar gyfrif ei weithredoedd neu'r ffydd a arddelwyd ganddo,
8. caiff hwnnw ei waredu rhag y peryglon a ragfynegwyd, a gweld fy iachawdwriaeth yn fy nhir, o fewn i'r terfynau a gysegrais i mi fy hun ers tragwyddoldeb.