15. y mae'r rhai a gollir yn fwy eu nifer na'r rhai a achubir,
16. fel y mae ton yn fwy na diferyn o ddŵr.”
17. Atebodd ef fel hyn: “Yn ôl y tir y bydd ansawdd y grawn, yn ôl y blodau y bydd ansawdd eu lliwiau, yn ôl y llafur y bydd ansawdd y cynnyrch, ac yn ôl yr amaethwr y bydd ansawdd y cynhaeaf.
18. Fe fu amser, cyn i'r byd erioed gael ei greu i neb fyw ynddo, pan oeddwn i eisoes yn paratoi ar gyfer y rheini sy'n bod yn awr; ni wrthwynebodd neb fi y pryd hwnnw, oherwydd nid oedd neb yn bod.
19. Y mae'r rhai a greais, er darparu bwrdd dihysbydd a chyfraith anchwiliadwy ar eu cyfer, wedi mynd yn llygredig eu moesau.
20. Yna ystyriais fy myd, a dyna lle'r oedd, wedi ei ddifetha; edrychais ar fy naear, a dyna lle'r oedd, mewn perygl oherwydd y cynllwynion a ddaethai i mewn iddi.
21. Wrth edrych, felly, o'r braidd y gallwn feddwl am arbed neb; eto achubais i mi fy hun un gronyn oddi ar y clwstwr grawnwin, ac un planhigyn o'r fforest fawr
22. Darfydded felly am y llu pobl a anwyd i ddim pwrpas, ond cadwer fy ngronyn a'm planhigyn i; oherwydd â llafur mawr yr wyf wedi eu perffeithio hwy.
23. Yn awr, rhaid i ti aros am saith diwrnod eto. Paid ag ymprydio yn ystod yr amser hwnnw,
24. ond dos i mewn i faes â'i lond o flodau, heb dŷ wedi ei adeiladu yno; myn dy fwyd o blith blodau'r maes yn unig; paid â blasu cig nac yfed gwin, dim ond blodau; gweddïa hefyd ar y Goruchaf yn ddi-baid.
25. Yna fe ddof atat a siarad â thi.”