2 Esdras 9:11-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. pawb a wawdiodd fy nghyfraith pan oedd eu rhyddid yn dal ganddynt,

12. ac a wrthododd â dirmyg diddeall y cyfle i edifarhau pan oedd o hyd ar gael iddynt—rhaid i'r rhain ddod i'm hadnabod trwy boenedigaeth ar ôl marw.

13. Felly paid â bod yn chwilfrydig mwyach ynglŷn â sut y poenydir yr annuwiol, ond yn hytrach hola sut y caiff y cyfiawn eu hachub, ac i bwy ac er mwyn pwy y mae'r oes newydd, a pha bryd y daw.”

14. Atebais innau: “Yr wyf wedi dweud hyn o'r blaen, rwy'n ei ddweud eto, ac fe af ymlaen i'w ddweud ar ôl hyn:

15. y mae'r rhai a gollir yn fwy eu nifer na'r rhai a achubir,

2 Esdras 9