2 Esdras 8:8-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. Gan mai ti sydd yn rhoi bywyd mewn corff a ffurfiwyd yn y groth, ac yn rhoi iddo aelodau, cedwir yr hyn a grëir gennyt yn ddiogel yng nghanol tân a dŵr, ac am naw mis y mae gwaith dy ddwylo yn goddef y creadur a greaist ynddo.

9. Ond caiff yr hyn sy'n diogelu a'r hyn a ddiogelir ill dau eu diogelu gan dy ddiogelwch di. A phan yw'r groth wedi rhoi i fyny'r hyn a grewyd o'i mewn,

10. yna, allan o aelodau'r corff, hynny yw o'r bronnau, gorchmynnaist gynhyrchu llaeth, ffrwyth y bronnau,

11. er mwyn maethu am beth amser yr hyn a luniwyd; ac fe fyddi'n parhau i'w gynnal ar ôl hynny yn dy drugaredd.

12. Yr wyt yn ei feithrin â'th gyfiawnder, yn ei hyfforddi yn dy gyfraith, ac yn ei ddisgyblu â'th ddoethineb.

13. Dy greadigaeth di, gwaith dy ddwylo, ydyw; gelli ei ladd, a gelli ei fywhau!

14. Ond os wyt yn distrywio mor swta un a luniwyd wrth dy orchymyn â chymaint o lafur, beth oedd pwrpas ei greu ef?

15. Yn awr yr wyf am ddweud hyn: ti sy'n gwybod orau am y ddynolryw gyfan; ond am dy bobl dy hun yr wyf fi'n poeni,

16. ac am dy etifeddiaeth yr wyf yn galaru; am Israel yr wyf fi'n drist, ac am had Jacob yr wyf yn drallodus.

17. Drosof fy hun, felly, a throstynt hwy, dymunwn weddïo ger dy fron, am fy mod yn gweld ein gwrthgiliadau ni, drigolion y tir;

18. clywais hefyd fod y Farn i ddilyn yn gyflym.

19. Am hynny gwrando ar fy llais, ac ystyria'r geiriau a lefaraf ger dy fron.”

20. Dyma ddechrau gweddi Esra, cyn iddo gael ei gymryd i fyny i'r nefoedd. Meddai: “Arglwydd, yr wyt ti'n preswylio yn nhragwyddoldeb, a'th lygaid wedi eu dyrchafu, a'r nefoedd uwchben yn eiddo iti;

21. y mae dy orsedd y tu hwnt i bob dychymyg, a'th ogoniant yn anchwiliadwy; ger dy fron saif llu'r angylion dan grynu,

22. yn cael eu troi'n wynt a thân i'th wasanaethu di; y mae dy air yn sicr a'th ymadroddion yn ddianwadal,

23. dy archiad yn gadarn a'th orchymyn yn ofnadwy; y mae dy drem yn sychu'r dyfnderau, dy ddicter yn peri i'r mynyddoedd doddi, a'th wirionedd yn para byth

24. Clyw, Arglwydd, weddi dy was; gwrando ar ddeisyfiad creadur a luniaist, a dal sylw ar fy ngeiriau.

25. Tra byddaf byw, gadawer imi lefaru; tra bydd synnwyr gennyf, gadawer imi ateb.

26. “Paid ag edrych ar gamweddau dy bobl, ond edrych ar y rheini sydd wedi dy wasanaethu'n onest.

2 Esdras 8