2 Esdras 8:8-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. Gan mai ti sydd yn rhoi bywyd mewn corff a ffurfiwyd yn y groth, ac yn rhoi iddo aelodau, cedwir yr hyn a grëir gennyt yn ddiogel yng nghanol tân a dŵr, ac am naw mis y mae gwaith dy ddwylo yn goddef y creadur a greaist ynddo.

9. Ond caiff yr hyn sy'n diogelu a'r hyn a ddiogelir ill dau eu diogelu gan dy ddiogelwch di. A phan yw'r groth wedi rhoi i fyny'r hyn a grewyd o'i mewn,

10. yna, allan o aelodau'r corff, hynny yw o'r bronnau, gorchmynnaist gynhyrchu llaeth, ffrwyth y bronnau,

11. er mwyn maethu am beth amser yr hyn a luniwyd; ac fe fyddi'n parhau i'w gynnal ar ôl hynny yn dy drugaredd.

2 Esdras 8