2 Esdras 8:61-63 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

61. Am hynny, y mae fy marn i yn awr yn nesáu,

62. ond nid wyf wedi gwneud hynny'n hysbys i bawb, dim ond i ti ac i ychydig o rai tebyg i ti.”

63. “Edrych, f'arglwydd,” atebais innau, “yr wyt wedi dangos imi yr arwyddion lu y byddi'n eu gwneud yn yr amserau diwethaf, ond ni ddangosaist imi pa bryd y bydd hynny.”

2 Esdras 8