6. Yna gweddïais: “O Arglwydd uwchben, os caniatéi i'th was ddynesu a gweddïo arnat, gosod had yn ein calon a gwrtaith i'n deall, er mwyn i ffrwyth ddod ohono a galluogi pob un llygredig i gael bywyd.
7. Oherwydd un wyt ti; ac un ffurfiad, gwaith dy ddwylo di, ydym ninnau, fel y dywedaist.
8. Gan mai ti sydd yn rhoi bywyd mewn corff a ffurfiwyd yn y groth, ac yn rhoi iddo aelodau, cedwir yr hyn a grëir gennyt yn ddiogel yng nghanol tân a dŵr, ac am naw mis y mae gwaith dy ddwylo yn goddef y creadur a greaist ynddo.
9. Ond caiff yr hyn sy'n diogelu a'r hyn a ddiogelir ill dau eu diogelu gan dy ddiogelwch di. A phan yw'r groth wedi rhoi i fyny'r hyn a grewyd o'i mewn,
10. yna, allan o aelodau'r corff, hynny yw o'r bronnau, gorchmynnaist gynhyrchu llaeth, ffrwyth y bronnau,
11. er mwyn maethu am beth amser yr hyn a luniwyd; ac fe fyddi'n parhau i'w gynnal ar ôl hynny yn dy drugaredd.
12. Yr wyt yn ei feithrin â'th gyfiawnder, yn ei hyfforddi yn dy gyfraith, ac yn ei ddisgyblu â'th ddoethineb.
13. Dy greadigaeth di, gwaith dy ddwylo, ydyw; gelli ei ladd, a gelli ei fywhau!