2 Esdras 8:58-63 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

58. a dweud ynddynt eu hunain, ‘Nid yw Duw yn bod’, er gwybod ohonynt yn iawn fod yn rhaid iddynt farw.

59. Fel y daw i'ch rhan chwi y pethau y soniwyd amdanynt eisoes, felly paratowyd syched a phoenedigaeth ar eu cyfer hwy. Oherwydd nid ewyllysiodd y Goruchaf fod neb i'w ddifetha;

60. y rhai a grewyd ganddo sydd eu hunain wedi halogi enw eu gwneuthurwr, ac wedi ymddwyn yn anniolchgar tuag at yr un a ddarparodd iddynt fywyd.

61. Am hynny, y mae fy marn i yn awr yn nesáu,

62. ond nid wyf wedi gwneud hynny'n hysbys i bawb, dim ond i ti ac i ychydig o rai tebyg i ti.”

63. “Edrych, f'arglwydd,” atebais innau, “yr wyt wedi dangos imi yr arwyddion lu y byddi'n eu gwneud yn yr amserau diwethaf, ond ni ddangosaist imi pa bryd y bydd hynny.”

2 Esdras 8