52. Oherwydd ar eich cyfer chwi y mae Paradwys yn agored, pren y bywyd wedi ei blannu, yr oes i ddod wedi ei pharatoi, a digonedd wedi ei ddarparu; i chwi yr adeiladwyd dinas, y sicrhawyd gorffwys, ac y dygwyd daioni yn ogystal â doethineb i berffeithrwydd.
53. Y mae gwreiddyn drygioni wedi ei selio rhagoch, a gwendid wedi ei ddiddymu oddi wrthych; y mae angau wedi diflannu, uffern ar ffo, a llygredigaeth yn ebargofiant;
54. aeth trallodion heibio, ac yn ddiwedd ar bopeth datguddiwyd trysor anfarwoldeb.
55. Felly paid â holi rhagor ynglŷn â'r llu a gollir.
56. Oherwydd cawsant hwythau eu rhyddid, ond yr hyn a wnaethant oedd dirmygu'r Goruchaf, diystyru ei gyfraith, a gadael ei ffyrdd ef.
57. Heblaw hynny, y maent wedi sathru ar ei weision cyfiawn ef,
58. a dweud ynddynt eu hunain, ‘Nid yw Duw yn bod’, er gwybod ohonynt yn iawn fod yn rhaid iddynt farw.
59. Fel y daw i'ch rhan chwi y pethau y soniwyd amdanynt eisoes, felly paratowyd syched a phoenedigaeth ar eu cyfer hwy. Oherwydd nid ewyllysiodd y Goruchaf fod neb i'w ddifetha;
60. y rhai a grewyd ganddo sydd eu hunain wedi halogi enw eu gwneuthurwr, ac wedi ymddwyn yn anniolchgar tuag at yr un a ddarparodd iddynt fywyd.
61. Am hynny, y mae fy marn i yn awr yn nesáu,
62. ond nid wyf wedi gwneud hynny'n hysbys i bawb, dim ond i ti ac i ychydig o rai tebyg i ti.”
63. “Edrych, f'arglwydd,” atebais innau, “yr wyt wedi dangos imi yr arwyddion lu y byddi'n eu gwneud yn yr amserau diwethaf, ond ni ddangosaist imi pa bryd y bydd hynny.”