2 Esdras 8:43-46 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

43. Fe all had y ffermwr fethu tyfu am nad yw wedi derbyn glaw oddi wrthyt ti yn ei iawn bryd; neu fe all bydru am ei fod wedi ei ddifetha gan ormod o law.

44. Ond dyn, a luniwyd gan dy ddwylo, a elwir yn ddelw ohonot am ei fod wedi ei wneud yn debyg i ti, hwnnw y lluniaist bopeth er ei fwyn—a wyt ti yn ei gymharu ef â had y ffermwr?

45. Na, ein Harglwydd! Yn hytrach, arbed dy bobl, a chymer drugaredd ar dy etifeddiaeth; oherwydd yr wyt yn trugarhau wrth dy greadigaeth.”

46. Atebodd ef fi: “Pethau'r presennol i bobl y presennol, a phethau'r dyfodol i bobl y dyfodol!

2 Esdras 8