40. Felly y dywedais, ac felly y mae.
41. Oherwydd fel y mae'r ffermwr yn hau llawer o had ar y ddaear ac yn plannu llu o blanhigion, ond nad yw'r cyfan a heuwyd yn tyfu'n ddiogel yn ei bryd, na'r cyfan a blannwyd yn bwrw gwraidd; felly hefyd ni waredir pawb a heuwyd yn y byd hwn.”
42. Meddwn innau: “Os wyf yn gymeradwy yn dy olwg, gadawer imi lefaru.
43. Fe all had y ffermwr fethu tyfu am nad yw wedi derbyn glaw oddi wrthyt ti yn ei iawn bryd; neu fe all bydru am ei fod wedi ei ddifetha gan ormod o law.
44. Ond dyn, a luniwyd gan dy ddwylo, a elwir yn ddelw ohonot am ei fod wedi ei wneud yn debyg i ti, hwnnw y lluniaist bopeth er ei fwyn—a wyt ti yn ei gymharu ef â had y ffermwr?
45. Na, ein Harglwydd! Yn hytrach, arbed dy bobl, a chymer drugaredd ar dy etifeddiaeth; oherwydd yr wyt yn trugarhau wrth dy greadigaeth.”
46. Atebodd ef fi: “Pethau'r presennol i bobl y presennol, a phethau'r dyfodol i bobl y dyfodol!
47. Yr wyt ti ymhell o allu caru fy nghreadigaeth yn fwy nag a wnaf fi fy hun. Er hynny, paid â'th gyplysu dy hun byth mwy â'r anghyfiawn, fel yr wyt wedi gwneud yn fynych.
48. Eto ar gyfrif hynny byddi'n fawr dy glod yng ngolwg y Goruchaf,
49. am iti dy ddarostwng dy hun, fel y mae'n gweddu iti, yn hytrach na'th gyfrif dy hun ymhlith y cyfiawn ac ymffrostio'n fawr yn hynny.
50. Oherwydd daw llawer o drallodion gresynus i ran trigolion y byd yn yr amserau diwethaf, am iddynt rodio mewn balchder mawr.
51. Ond tydi, meddylia amdanat dy hun, ac ymhola am y gogoniant sy'n aros i rai tebyg i ti.
52. Oherwydd ar eich cyfer chwi y mae Paradwys yn agored, pren y bywyd wedi ei blannu, yr oes i ddod wedi ei pharatoi, a digonedd wedi ei ddarparu; i chwi yr adeiladwyd dinas, y sicrhawyd gorffwys, ac y dygwyd daioni yn ogystal â doethineb i berffeithrwydd.
53. Y mae gwreiddyn drygioni wedi ei selio rhagoch, a gwendid wedi ei ddiddymu oddi wrthych; y mae angau wedi diflannu, uffern ar ffo, a llygredigaeth yn ebargofiant;