2 Esdras 8:39-43 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

39. ond gorfoleddaf yng nghreadigaeth y cyfiawn, eu pererindod hefyd, a'u hiachawdwriaeth, a'r tâl a dderbyniant.

40. Felly y dywedais, ac felly y mae.

41. Oherwydd fel y mae'r ffermwr yn hau llawer o had ar y ddaear ac yn plannu llu o blanhigion, ond nad yw'r cyfan a heuwyd yn tyfu'n ddiogel yn ei bryd, na'r cyfan a blannwyd yn bwrw gwraidd; felly hefyd ni waredir pawb a heuwyd yn y byd hwn.”

42. Meddwn innau: “Os wyf yn gymeradwy yn dy olwg, gadawer imi lefaru.

43. Fe all had y ffermwr fethu tyfu am nad yw wedi derbyn glaw oddi wrthyt ti yn ei iawn bryd; neu fe all bydru am ei fod wedi ei ddifetha gan ormod o law.

2 Esdras 8