2 Esdras 8:36-40 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

36. Oblegid yn hyn, Arglwydd, y gwneir dy gyfiawnder a'th ddaioni di yn hysbys, sef iti fod yn drugarog tuag at y rhai nad oes ganddynt gyfalaf o weithredoedd da.”

37. Atebodd ef fi fel hyn: “Y mae llawer o'r hyn a ddywedaist yn gywir, ac yn unol â'th eiriau y bydd pethau'n digwydd.

38. Oherwydd, yn wir i ti, ni feddyliaf am y rhai a bechodd, am eu creu na'u marw, eu barn na'u colledigaeth;

39. ond gorfoleddaf yng nghreadigaeth y cyfiawn, eu pererindod hefyd, a'u hiachawdwriaeth, a'r tâl a dderbyniant.

40. Felly y dywedais, ac felly y mae.

2 Esdras 8