2 Esdras 8:29-45 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

29. Paid â mynnu difetha'r rhai sydd wedi byw fel anifeiliaid, ond ystyria'r rheini a fu'n hyfforddwyr disglair yn dy gyfraith.

30. Paid â bod yn ddig wrth y rhai a gyfrifir yn waeth na bwystfilod, ond rho dy fryd ar y rheini y bu eu hyder bob amser yn dy ogoniant di.

31. Oherwydd buom ni a'n hynafiaid yn dilyn arferion angheuol, ac eto o'n hachos ni bechaduriaid y gelwir di yn drugarog;

32. oblegid os wyt yn dymuno trugarhau wrthym ni, sydd heb unrhyw weithredoedd cyfiawn ar ein helw, yna fe'th elwir yn drugarog yn wir.

33. Oherwydd y mae'r cyfiawn, gan fod ganddynt lawer o weithredoedd da wedi eu rhoi ynghadw gyda thi, yn derbyn eu tâl ar sail eu gweithredoedd eu hunain.

34. “Beth yw dyn, i ti ddigio wrtho, neu'r hil lygradwy, i ti fod mor chwerw tuag ati?

35. Oherwydd y gwir yw na aned neb nad yw wedi ymddwyn yn annuwiol, ac nad oes neb byw nad yw wedi pechu.

36. Oblegid yn hyn, Arglwydd, y gwneir dy gyfiawnder a'th ddaioni di yn hysbys, sef iti fod yn drugarog tuag at y rhai nad oes ganddynt gyfalaf o weithredoedd da.”

37. Atebodd ef fi fel hyn: “Y mae llawer o'r hyn a ddywedaist yn gywir, ac yn unol â'th eiriau y bydd pethau'n digwydd.

38. Oherwydd, yn wir i ti, ni feddyliaf am y rhai a bechodd, am eu creu na'u marw, eu barn na'u colledigaeth;

39. ond gorfoleddaf yng nghreadigaeth y cyfiawn, eu pererindod hefyd, a'u hiachawdwriaeth, a'r tâl a dderbyniant.

40. Felly y dywedais, ac felly y mae.

41. Oherwydd fel y mae'r ffermwr yn hau llawer o had ar y ddaear ac yn plannu llu o blanhigion, ond nad yw'r cyfan a heuwyd yn tyfu'n ddiogel yn ei bryd, na'r cyfan a blannwyd yn bwrw gwraidd; felly hefyd ni waredir pawb a heuwyd yn y byd hwn.”

42. Meddwn innau: “Os wyf yn gymeradwy yn dy olwg, gadawer imi lefaru.

43. Fe all had y ffermwr fethu tyfu am nad yw wedi derbyn glaw oddi wrthyt ti yn ei iawn bryd; neu fe all bydru am ei fod wedi ei ddifetha gan ormod o law.

44. Ond dyn, a luniwyd gan dy ddwylo, a elwir yn ddelw ohonot am ei fod wedi ei wneud yn debyg i ti, hwnnw y lluniaist bopeth er ei fwyn—a wyt ti yn ei gymharu ef â had y ffermwr?

45. Na, ein Harglwydd! Yn hytrach, arbed dy bobl, a chymer drugaredd ar dy etifeddiaeth; oherwydd yr wyt yn trugarhau wrth dy greadigaeth.”

2 Esdras 8