2 Esdras 8:26-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

26. “Paid ag edrych ar gamweddau dy bobl, ond edrych ar y rheini sydd wedi dy wasanaethu'n onest.

27. Paid â sylwi ar bethau y mae'r annuwiol yn eu ceisio, ond sylwa ar y rhai a gadwodd dy gyfamodau yng nghanol eu trallodion.

28. Paid â meddwl am y rhai y bu eu hymddygiad yn dwyllodrus yn dy olwg, ond cofia'r rheini sydd o'u gwirfodd wedi cydnabod eu parch tuag atat.

29. Paid â mynnu difetha'r rhai sydd wedi byw fel anifeiliaid, ond ystyria'r rheini a fu'n hyfforddwyr disglair yn dy gyfraith.

2 Esdras 8