2 Esdras 8:21-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

21. y mae dy orsedd y tu hwnt i bob dychymyg, a'th ogoniant yn anchwiliadwy; ger dy fron saif llu'r angylion dan grynu,

22. yn cael eu troi'n wynt a thân i'th wasanaethu di; y mae dy air yn sicr a'th ymadroddion yn ddianwadal,

23. dy archiad yn gadarn a'th orchymyn yn ofnadwy; y mae dy drem yn sychu'r dyfnderau, dy ddicter yn peri i'r mynyddoedd doddi, a'th wirionedd yn para byth

24. Clyw, Arglwydd, weddi dy was; gwrando ar ddeisyfiad creadur a luniaist, a dal sylw ar fy ngeiriau.

25. Tra byddaf byw, gadawer imi lefaru; tra bydd synnwyr gennyf, gadawer imi ateb.

26. “Paid ag edrych ar gamweddau dy bobl, ond edrych ar y rheini sydd wedi dy wasanaethu'n onest.

27. Paid â sylwi ar bethau y mae'r annuwiol yn eu ceisio, ond sylwa ar y rhai a gadwodd dy gyfamodau yng nghanol eu trallodion.

28. Paid â meddwl am y rhai y bu eu hymddygiad yn dwyllodrus yn dy olwg, ond cofia'r rheini sydd o'u gwirfodd wedi cydnabod eu parch tuag atat.

29. Paid â mynnu difetha'r rhai sydd wedi byw fel anifeiliaid, ond ystyria'r rheini a fu'n hyfforddwyr disglair yn dy gyfraith.

2 Esdras 8