2. Ond gad imi roi eglureb iti, Esra. Hola'r ddaear, ac fe ddywed wrthyt y rhydd hi ddigonedd o glai i wneud llestri pridd, ond ychydig iawn o'r llwch y ceir aur ohono. Yr un yw ffordd y byd hwn:
3. y mae llawer, yn wir, wedi eu creu, ond ychydig a gaiff eu hachub.”
4. Atebais innau: “Fy enaid, cymer ddeall i'w yfed a doethineb i'w fwyta.
5. Oherwydd nid o'th ddewis dy hun y daethost i'r byd, ac yn erbyn dy ewyllys yr wyt yn ymadael ag ef; oblegid am gyfnod byr yn unig y caniatawyd i ti fyw.”
6. Yna gweddïais: “O Arglwydd uwchben, os caniatéi i'th was ddynesu a gweddïo arnat, gosod had yn ein calon a gwrtaith i'n deall, er mwyn i ffrwyth ddod ohono a galluogi pob un llygredig i gael bywyd.
7. Oherwydd un wyt ti; ac un ffurfiad, gwaith dy ddwylo di, ydym ninnau, fel y dywedaist.
8. Gan mai ti sydd yn rhoi bywyd mewn corff a ffurfiwyd yn y groth, ac yn rhoi iddo aelodau, cedwir yr hyn a grëir gennyt yn ddiogel yng nghanol tân a dŵr, ac am naw mis y mae gwaith dy ddwylo yn goddef y creadur a greaist ynddo.
9. Ond caiff yr hyn sy'n diogelu a'r hyn a ddiogelir ill dau eu diogelu gan dy ddiogelwch di. A phan yw'r groth wedi rhoi i fyny'r hyn a grewyd o'i mewn,
10. yna, allan o aelodau'r corff, hynny yw o'r bronnau, gorchmynnaist gynhyrchu llaeth, ffrwyth y bronnau,
11. er mwyn maethu am beth amser yr hyn a luniwyd; ac fe fyddi'n parhau i'w gynnal ar ôl hynny yn dy drugaredd.
12. Yr wyt yn ei feithrin â'th gyfiawnder, yn ei hyfforddi yn dy gyfraith, ac yn ei ddisgyblu â'th ddoethineb.