2 Esdras 8:18-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

18. clywais hefyd fod y Farn i ddilyn yn gyflym.

19. Am hynny gwrando ar fy llais, ac ystyria'r geiriau a lefaraf ger dy fron.”

20. Dyma ddechrau gweddi Esra, cyn iddo gael ei gymryd i fyny i'r nefoedd. Meddai: “Arglwydd, yr wyt ti'n preswylio yn nhragwyddoldeb, a'th lygaid wedi eu dyrchafu, a'r nefoedd uwchben yn eiddo iti;

21. y mae dy orsedd y tu hwnt i bob dychymyg, a'th ogoniant yn anchwiliadwy; ger dy fron saif llu'r angylion dan grynu,

22. yn cael eu troi'n wynt a thân i'th wasanaethu di; y mae dy air yn sicr a'th ymadroddion yn ddianwadal,

2 Esdras 8