2 Esdras 7:87-99 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

87. Yn seithfed—ac y mae'r rheswm hwn yn bwysicach na'r holl rai y soniwyd amdanynt eisoes—am y byddant yn nychu mewn siom, yn cael eu difa mewn cywilydd ac yn dihoeni mewn ofnau, pan welant ogoniant y Goruchaf; oherwydd pechu ger ei fron ef a wnaethant yn ystod eu bywyd, a cher ei fron ef hefyd y maent i gael eu barnu yn yr amserau diwethaf.

88. “Ond ynglŷn â'r rhai a gadwodd ffyrdd y Goruchaf, dyma drefn pethau pan ddaw'r amser iddynt hwy gael eu gwahanu oddi wrth eu llestr llygradwy.

89. Yn ystod eu hamser ar y ddaear buont yn ddyfal yn gwasanaethu'r Goruchaf ac yn dioddef perygl bob awr, er mwyn cadw cyfraith y Deddfwr yn berffaith.

90. Ar gyfrif hynny, dyma sydd i'w ddweud amdanynt hwy:

91. yn gyntaf oll cânt weld, â gorfoledd mawr, ogoniant yr Un sydd yn eu derbyn; ac yna ânt i'w gorffwys, a hynny ar hyd saith gris o orfoledd.

92. Yn gyntaf, cânt orfoleddu am iddynt ymdrechu, â llafur mawr, i orchfygu'r meddwl drwg sy'n gynhenid ynddynt, heb adael iddo eu llithio oddi wrth fywyd i farwolaeth.

93. Yn ail, cânt weld y dryswch y mae eneidiau'r annuwiol yn crwydro ynddo, a'r gosb sy'n eu haros.

94. Yn drydydd, gwelant y dystiolaeth iddynt a ddygwyd gan yr Un a'u lluniodd, eu bod hwy yn ystod eu bywyd wedi cadw'r gyfraith a ymddiriedwyd iddynt.

95. Yn bedwerydd, deallant y gorffwys y maent i'w fwynhau yn awr, a hwythau wedi eu cynnull ynghyd yn eu hystafelloedd cudd a'u gwarchod mewn tawelwch mawr gan angylion, a hefyd cânt ddeall y gogoniant sydd yn eu haros yn yr amserau diwethaf.

96. Yn bumed, gorfoleddant yn y modd y bu iddynt yn awr ddianc rhag y llygradwy, a'r modd y cânt dderbyn yr hyn sydd i ddod yn etifeddiaeth; hefyd gwelant y bywyd cyfyng a phoenus y rhyddhawyd hwy ohono, a'r bywyd eang y maent ar fedr ei dderbyn, i'w fwynhau heb farw mwy.

97. Yn chweched dangosir iddynt y modd y mae eu hwynebau i ddisgleirio fel yr haul, a'r modd y maent i'w gwneud yn debyg i oleuni'r sêr, yn anllygredig mwyach.

98. Yn seithfed—ac y mae'r gris hwn yn bwysicach na'r holl rai y soniwyd amdanynt eisoes—gorfoleddant â hyder, ymddiriedant heb siom, a llawenychant heb ofn; oherwydd y maent yn prysuro i edrych ar wyneb yr Un y buont yn ei wasanaethu yn ystod eu bywyd, ac y maent ar fedr derbyn ganddo eu gwobr mewn gogoniant.

99. Dyna drefn pethau ar gyfer eneidiau'r cyfiawn, ac o hyn allan y mae'n hysbys; cyn hynny soniais am ffyrdd poenedigaeth, sydd i'w dioddef o hyn allan gan y rhai a fu'n ddi-fraw.”

2 Esdras 7