2 Esdras 7:79-85 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

79. Ac os yw'n un o'r rheini a fu'n gwawdio ac yn gwrthod cadw ffordd y Goruchaf, yn dirmygu ei gyfraith ef ac yn casáu'r rhai sy'n ofni Duw,

80. ni chaiff ysbrydoedd felly fynd i mewn i'r trigfannau, ond o hynny ymlaen byddant yn crwydro mewn poenedigaethau, bob amser yn alarus a thrist, a hynny am saith rheswm.

81. Yn gyntaf, am iddynt ddiystyru ffordd y Goruchaf.

82. Yn ail, am na allant bellach wir edifarhau a chael byw.

83. Yn drydydd, fe welant y wobr sydd ynghadw ar gyfer y rhai a ymddiriedodd yng nghyfamodau'r Goruchaf.

84. Yn bedwerydd, byddant yn meddwl am y boenedigaeth sydd ynghadw ar eu cyfer hwy yn yr amserau diwethaf.

85. Yn bumed, gwelant angylion yn gwarchod trigfannau ysbrydoedd eraill mewn tawelwch mawr.

2 Esdras 7