“Os wyf yn gymeradwy yn dy olwg, f'arglwydd feistr,” atebais i, “gwna hyn hefyd yn eglur i'th was: ar ôl marw, pan fydd pob un ohonom o'r diwedd yn ildio'i enaid, a gawn ni ein cadw yn gorffwys nes dyfod yr amserau hynny pan fyddi'n dechrau adnewyddu'r greadigaeth, neu a yw ein poenedigaeth i ddechrau ar unwaith?”