2 Esdras 7:4-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. ond bod y ffordd i mewn iddo yn lle mor gul nes ymddangos fel afon.

5. Pe bai rhywun yn dymuno o ddifrif gyrraedd y môr, naill ai i'w weld neu i gael rheolaeth arno, sut y gallai gyrraedd y lle eang heb iddo'n gyntaf fynd trwy'r lle cul?

6. Neu eto, dychmyga ddinas wedi ei hadeiladu a'i safle ar dir gwastad, a'i llond o bopeth da,

7. ond bod y ffordd i mewn iddi yn gul a serth, gyda thân ar y dde a dyfnder o ddŵr ar y chwith,

8. a'r llwybr hwn rhyngddynt, sef rhwng y tân a'r dŵr, yn unig lwybr ati, a'i led heb fod yn ddim mwy na lled troed dyn.

2 Esdras 7