37. Yna fe ddywed y Goruchaf wrth y cenhedloedd a ddeffrowyd: ‘Edrychwch, a gwelwch pwy yr ydych wedi ei wadu, pwy yr ydych wedi gwrthod ei wasanaethu, gorchmynion pwy yr ydych wedi eu dirmygu.
38. Edrychwch yma, ac yna draw; yma y mae llawenydd a gorffwys, ond draw tân a phoenedigaeth.’
39. Dyna'r hyn a ddywed ef wrthynt ar Ddydd y Farn. Dydd tebyg i hyn fydd hwnnw: dydd heb na haul na lleuad na sêr;
40. heb na chwmwl na tharan na mellten; heb na gwynt na dŵr nac awyr; heb na thywyllwch na hwyr na bore;
41. heb na haf na gwanwyn na gwres; heb na gaeaf na rhew nac oerfel; heb na chenllysg na glaw na gwlith;
42. heb na chanol dydd na nos na gwawr; heb na disgleirdeb na llewyrch na goleuni; dim ond llewyrch ysblennydd y Goruchaf, y bydd pawb yn dechrau gweld wrtho beth a ragosodwyd iddynt.
43. Bydd y dydd yn parhau megis am wythnos o flynyddoedd.
44. Dyna'r farn, a'r drefn a osodais ar ei chyfer. I ti yn unig y dangosais y pethau hyn.”
45. “Fe'i dywedais o'r blaen, f'arglwydd,” atebais innau, “ac rwy'n ei ddweud eto: Gwyn eu byd y rhai sy'n byw yn awr ac yn cadw dy ddeddfau di.
46. Ond beth am y rhai y gweddïais drostynt? Oherwydd pwy o blith y rhai sy'n byw yn awr sydd heb bechu, neu pwy o blith plant dynion sydd heb anwybyddu dy addewid?
47. Gwelaf yn awr mai i ychydig y bydd y byd a ddaw yn dwyn llawenydd, ond arteithiau i'r lliaws.
48. Oherwydd mynd ar gynnydd a wnaeth ein calon ddrwg, a'n dieithrio oddi wrth ffyrdd Duw; arweiniodd ni i lygredigaeth a ffyrdd marwolaeth; dangosodd inni lwybrau distryw, a'n pellhau oddi wrth fywyd. Hyn a fu, nid i ychydig, ond i bron bawb a grewyd.”
49. Atebodd ef fi fel hyn: “Gwrando arnaf fi, ac fe'th ddysgaf; af ymlaen ymhellach i'th gywiro di.
50. Y mae'r rheswm pam y creodd y Goruchaf nid un byd ond dau fel a ganlyn:
51. yr wyt wedi addef nad llawer ond ychydig yw'r cyfiawn, a bod yr annuwiol, yn wir, ar gynnydd. Felly, gwrando di ar hyn:
52. bwrw fod gennyt ychydig bach o feini gwerthfawr; a fyddit am ychwanegu atynt drwy roi plwm a chlai gyda hwy?”
53. “F'arglwydd,” meddwn innau, “sut y byddai hynny'n bosibl?”