2 Esdras 7:17-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. “Atolwg, Arglwydd Iôr,” atebais innau, “deddfaist yn dy gyfraith fod y cyfiawn i etifeddu'r bendithion hyn, ond bod yr annuwiol i ddarfod amdanynt.

18. Felly bydd y cyfiawn yn dioddef y mannau cul mewn gobaith am yr eangderau; ond y rhai annuwiol eu buchedd, er iddynt ddioddef y mannau cul, ni chânt weld yr eangderau.”

19. Meddai yntau wrthyf: “Nid wyt ti'n well barnwr na Duw, nac yn fwy deallus na'r Goruchaf.

20. Darfydded, felly, am lawer o'r rhai sy'n byw yn awr, yn hytrach na bod cyfraith Duw, a osodwyd o'u blaen hwy, yn cael ei diystyru.

2 Esdras 7