2 Esdras 7:129-134 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

129. [59] Oherwydd dyma'r ffordd y soniodd Moses amdani yn ei ddydd, pan ddywedodd wrth y bobl: ‘Dewis fywyd i ti dy hun, a bydd fyw!’

130. [60] Ond ni chredasant ef, na'r proffwydi ar ei ôl, na minnau chwaith, a fûm yn llefaru wrthynt.

131. [61] Felly ni all y tristwch am eu dinistr hwy gael ei gymharu â'r llawenydd am iachawdwriaeth y rhai a gredodd.”

132. [62] “Gwn, f'arglwydd,” atebais innau, “y gelwir y Goruchaf yn awr yn drugarog, am ei fod yn trugarhau wrth y rhai sydd hyd yma heb ddod i mewn i'r byd;

133. [63] ac yn dosturiol, am ei fod yn tosturio wrth y rhai sydd wedi troi a derbyn ei gyfraith ef;

134. [64] ac yn amyneddgar, am ei fod yn dangos amynedd tuag at y rhai a bechodd, yn gymaint â'u bod yn waith ei ddwylo'i hun;

2 Esdras 7