2 Esdras 7:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Ar ôl imi orffen llefaru'r geiriau hyn, anfonwyd ataf yr angel a anfonasid ataf y nosweithiau blaenorol.

2. “Cod, Esra,” meddai wrthyf, “a gwrando ar y geiriau y deuthum i'w llefaru wrthyt.”

3. “Llefara, f'arglwydd,” atebais innau.Meddai'r angel wrthyf: “Dychmyga fôr wedi ei osod mewn lle eang, ac yn ymestyn ar led heb derfyn iddo,

4. ond bod y ffordd i mewn iddo yn lle mor gul nes ymddangos fel afon.

5. Pe bai rhywun yn dymuno o ddifrif gyrraedd y môr, naill ai i'w weld neu i gael rheolaeth arno, sut y gallai gyrraedd y lle eang heb iddo'n gyntaf fynd trwy'r lle cul?

6. Neu eto, dychmyga ddinas wedi ei hadeiladu a'i safle ar dir gwastad, a'i llond o bopeth da,

2 Esdras 7