2 Esdras 6:7-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. Yna atebais i fel hyn: “Beth fydd yn gwahanu'r amserau? Pa bryd y bydd diwedd yr oes gyntaf a dechrau'r nesaf?”

8. Meddai ef wrthyf: “Ni bydd y gwahaniad yn hwy na hwnnw rhwng Abraham ac Abraham; oherwydd ganed Jacob ac Esau yn ddisgynyddion iddo ef, ac yr oedd llaw Jacob yn cydio yn sawdl Esau o'r dechreuad.

9. Y mae Esau'n cynrychioli diwedd yr oes hon, a Jacob ddechrau'r oes nesaf.

10. Dechrau dyn yw ei law, a diwedd dyn yw ei sawdl Paid â chwilio am ddim arall rhwng sawdl a llaw, Esra.”

11. “F'arglwydd feistr,” meddwn innau,

12. “os wyf yn gymeradwy yn dy olwg, dangos i mi ddiwedd dy arwyddion, y dangosaist ran ohonynt imi y noson flaenorol honno.”

13. Atebodd fi fel hyn: “Saf ar dy draed, a chei glywed llais cryf yn atseinio;

14. ac os bydd y lle y sefi arno yn siglo

15. pan lefara'r llais, paid â dychrynu; oherwydd ynglŷn â'r diwedd y bydd neges y llais, a bydd seiliau'r ddaear yn deall

16. mai amdanynt hwy y mae'n traethu. Crynant a siglant, oherwydd gwyddant am eu diwedd, bod newid llwyr i ddigwydd.”

17. Ar ôl imi glywed hyn, sefais ar fy nhraed a gwrando; a dyma lais yn llefaru, a'i sŵn fel sŵn dyfroedd lawer.

18. Meddai'r llais: “Y mae'r dyddiau yn wir yn dod pan ddof yn agos i farnu preswylwyr y ddaear,

19. pan fynnaf gyfrif gan ddrwgweithredwyr didostur am eu drygioni, pan fydd darostyngiad Seion wedi ei gwblhau,

20. a phan fydd sêl wedi ei gosod ar yr oes sydd ar ddarfod. Yna gwnaf yr arwyddion a ganlyn: agorir y llyfrau yng ngolwg y ffurfafen, a chaiff pawb eu gweld yr un pryd.

21. Bydd babanod blwydd oed yn medru siarad; bydd gwragedd beichiog yn esgor yn gynamserol, wedi tri neu bedwar mis, a bydd eu plant yn fyw ac yn llamu o gwmpas.

22. Yn sydyn ymddengys mannau a heuwyd fel rhai heb eu hau, a cheir stordai llawn yn sydyn yn wag;

23. bydd yr utgorn yn seinio'n uchel, a daw dychryn ar unwaith ar bawb a'i clyw.

24. Y pryd hwnnw bydd cyfeillion yn ymladd â chyfeillion fel petaent yn elynion, a daw ofn ar y ddaear ynghyd â'i thrigolion. Bydd dyfroedd y ffynhonnau yn sefyll, ac am dair awr fe beidiant â llifo.

25. “Pwy bynnag a adewir ar ôl wedi'r holl bethau hyn yr wyf wedi eu rhagfynegi i ti, caiff ef ei achub, a chaiff weld fy iachawdwriaeth i a diwedd fy myd hwn.

26. Yna cânt weld y rheini a dderbyniwyd i'r nefoedd heb iddynt erioed brofi marwolaeth. Newidir calon trigolion y ddaear, ac fe'u troir i ddeall pethau mewn ffordd newydd.

2 Esdras 6