38. “Arglwydd,” meddwn, “o ddechrau'r greadigaeth fe fuost ti yn wir yn llefaru; y dydd cyntaf dywedaist, ‘Bydded nef a daear’, a chyflawnodd dy air y gwaith.
39. Yr amser hwnnw yr oedd yr Ysbryd ar ei adain, a thywyllwch a distawrwydd yn ymdaenu oddi amgylch, heb fod sŵn llais neb yno eto.
40. Yna gorchmynnaist ddwyn allan belydryn o oleuni o'th drysorfeydd, er mwyn i'th waith di ddod i'r golwg y pryd hwnnw.
41. Yr ail ddydd eto creaist ysbryd y ffurfafen, a gorchmynnaist iddo rannu a gwneud gwahaniad rhwng y dyfroedd—un rhan i gilio i fyny, a'r llall i aros islaw.
42. Y trydydd dydd gorchmynnaist i'r dyfroedd ymgasglu yn seithfed ran y ddaear, ond sychaist y chwe rhan arall a'u cadw, fel y byddai rhai ohonynt yn cael eu hau a'u trin yn wasanaeth i ti.
43. A chyn gynted ag yr aeth dy air di allan, fe wnaed y gwaith.
44. Oherwydd ar unwaith daeth ffrwythau allan yn llu aneirif, a phob math o bethau dymunol i'w blasu, ynghyd â blodau digymar eu lliw ac arogleuon persawrus tu hwnt. Dyna'r hyn a wnaed y trydydd dydd.
45. Y pedwerydd dydd gorchmynnaist ddyfod ysblander yr haul, a llewyrch y lleuad, a'r sêr yn eu trefn;
46. a gorchmynnaist iddynt wasanaethu dyn, a oedd ar fin cael ei lunio.
47. Y pumed dydd dywedaist wrth y seithfed ran, lle'r oedd y dŵr wedi ymgasglu, am iddi eni i'r byd greaduriaid byw, adar a physgod.
48. Ac felly, yn unol â'th orchymyn, cynhyrchodd y dŵr mud, difywyd, greaduriaid byw, i'r cenhedloedd gael traethu dy ryfeddodau di oherwydd hynny.
49. Yna diogelaist ddau greadur; enwaist un ohonynt Behemoth, a'th enw ar yr ail oedd Lefiathan.
50. Neilltuaist y naill oddi wrth y llall, oherwydd ni allai'r seithfed ran, lle'r oedd y dŵr wedi ymgasglu, eu dal hwy.
51. I Behemoth rhoddaist un o'r rhannau a sychwyd ar y trydydd dydd, iddo gael trigo yno, lle mae mil o fynyddoedd; ond i Lefiathan rhoddaist y seithfed ran, yr un ddyfriog.
52. Ac yr wyt wedi eu cadw hwy i'w bwyta gan bwy bynnag a fynni, a phryd bynnag y mynni.