32. oherwydd y mae dy lais yn sicr wedi ei glywed gan y Goruchaf, ac y mae'r Duw nerthol wedi gweld dy uniondeb ac wedi sylwi ar lendid dy fuchedd o'th ieuenctid.
33. Dyna pam yr anfonodd fi atat i ddangos yr holl bethau hyn iti ac i ddweud wrthyt: ‘Bydd ffyddiog, a phaid ag ofni.
34. Paid ychwaith â brysio, yn yr amserau sy'n blaenori'r diwedd, i ddyfalu pethau ofer; yna ni byddi'n gweithredu ar frys pan ddaw'r amserau diwethaf.’ ”
35. Ar ôl hynny, felly, bûm unwaith eto yn wylo ac yn ymprydio am saith diwrnod, yn union fel o'r blaen, er mwyn cyflawni'r tair wythnos a bennwyd imi.
36. A'r wythfed nos, yr oedd fy nghalon wedi ei chythryblu unwaith eto o'm mewn, a dechreuais lefaru wrth y Goruchaf;
37. oherwydd yr oedd fy ysbryd ar dân drwyddo, a'm henaid yn drallodus.
38. “Arglwydd,” meddwn, “o ddechrau'r greadigaeth fe fuost ti yn wir yn llefaru; y dydd cyntaf dywedaist, ‘Bydded nef a daear’, a chyflawnodd dy air y gwaith.
39. Yr amser hwnnw yr oedd yr Ysbryd ar ei adain, a thywyllwch a distawrwydd yn ymdaenu oddi amgylch, heb fod sŵn llais neb yno eto.
40. Yna gorchmynnaist ddwyn allan belydryn o oleuni o'th drysorfeydd, er mwyn i'th waith di ddod i'r golwg y pryd hwnnw.
41. Yr ail ddydd eto creaist ysbryd y ffurfafen, a gorchmynnaist iddo rannu a gwneud gwahaniad rhwng y dyfroedd—un rhan i gilio i fyny, a'r llall i aros islaw.