2 Esdras 6:24-36 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

24. Y pryd hwnnw bydd cyfeillion yn ymladd â chyfeillion fel petaent yn elynion, a daw ofn ar y ddaear ynghyd â'i thrigolion. Bydd dyfroedd y ffynhonnau yn sefyll, ac am dair awr fe beidiant â llifo.

25. “Pwy bynnag a adewir ar ôl wedi'r holl bethau hyn yr wyf wedi eu rhagfynegi i ti, caiff ef ei achub, a chaiff weld fy iachawdwriaeth i a diwedd fy myd hwn.

26. Yna cânt weld y rheini a dderbyniwyd i'r nefoedd heb iddynt erioed brofi marwolaeth. Newidir calon trigolion y ddaear, ac fe'u troir i ddeall pethau mewn ffordd newydd.

27. Oherwydd caiff drygioni ei lwyr ddiddymu, a thwyll ei ddileu;

28. ond bydd ffyddlondeb yn blodeuo, llygredd yn cael ei orchfygu, a'r gwirionedd, a fu'n ddiffrwyth cyhyd, yn dod i'r amlwg.”

29. Tra oedd y llais yn siarad â mi, dyma'r man yr oeddwn yn sefyll arno yn dechrau siglo

30. Yna meddai'r angel wrthyf: “Dyna'r pethau y deuthum i'w dangos iti y nos hon

31. Os bydd iti weddïo eto, ac ymprydio eto am saith diwrnod, yna fe ddychwelaf atat a mynegi iti bethau mwy hyd yn oed na'r rhain

32. oherwydd y mae dy lais yn sicr wedi ei glywed gan y Goruchaf, ac y mae'r Duw nerthol wedi gweld dy uniondeb ac wedi sylwi ar lendid dy fuchedd o'th ieuenctid.

33. Dyna pam yr anfonodd fi atat i ddangos yr holl bethau hyn iti ac i ddweud wrthyt: ‘Bydd ffyddiog, a phaid ag ofni.

34. Paid ychwaith â brysio, yn yr amserau sy'n blaenori'r diwedd, i ddyfalu pethau ofer; yna ni byddi'n gweithredu ar frys pan ddaw'r amserau diwethaf.’ ”

35. Ar ôl hynny, felly, bûm unwaith eto yn wylo ac yn ymprydio am saith diwrnod, yn union fel o'r blaen, er mwyn cyflawni'r tair wythnos a bennwyd imi.

36. A'r wythfed nos, yr oedd fy nghalon wedi ei chythryblu unwaith eto o'm mewn, a dechreuais lefaru wrth y Goruchaf;

2 Esdras 6