2 Esdras 6:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Atebodd fi: “Ystyria ddechrau cyntaf y ddaear: nid oedd pyrth y byd yn sefyll eto; nid oedd gwyntoedd yn ymgasglu ac yn chwythu,

2. na thrwst taranau yn atseinio, na fflachiadau mellt yn disgleirio; nid oedd seiliau paradwys wedi eu gosod,

3. na blodau prydferth i'w gweld: nid oedd y grymoedd sy'n troi'r bydysawd wedi eu sefydlu, na lluoedd dirifedi'r angylion wedi eu casglu ynghyd.

4. Nid oedd uchelderau'r awyr wedi eu codi fry, na pharthau'r ffurfafen wedi eu henwi, na Seion wedi ei chyfrif yn droedfainc Duw;

2 Esdras 6