8. Bydd agennau yn ymddangos mewn llawer lle, a thân yn saethu allan ohonynt yn fynych. Bydd anifeiliaid gwylltion yn cefnu ar eu cynefin, a gwragedd misglwyfus yn esgor ar angenfilod.
9. Ceir dŵr hallt mewn ffynhonnau o ddŵr croyw, a bydd cyfeillion yn ymosod bob un ar ei gilydd; yna cuddir y synhwyrau, a chilia deall i'w guddfan;
10. bydd llawer yn ei geisio ac yn methu ei gael; bydd anghyfiawnder ac anlladrwydd ar gynnydd dros wyneb y ddaear.
11. Bydd y naill wlad yn holi'r llall fel hyn: ‘A yw cyfiawnder, sy'n gwneud yr hyn sydd iawn, wedi tramwy trwot ti?’ A'r ateb fydd, ‘Nac ydyw.’
12. Y pryd hwnnw bydd pobl yn gobeithio, ond ni welant gyflawni eu gobeithion; yn llafurio, ond ni bydd eu ffyrdd yn llwyddo.
13. Dyna'r arwyddion y caniatawyd i mi eu hadrodd wrthyt; ond os bydd iti weddïo eto, a pharhau i wylo ac ymprydio am saith diwrnod, yna cei glywed ymhellach bethau myw na'r rhain.”
14. Yna deffrois, a'm corff yn crynu drwyddo; yr oeddwn mor drallodus fy meddwl fel y llewygais.
15. Ond daeth yr angel a fu'n ymddiddan â mi i'm cynnal a'm nerthu i sefyll ar fy nhraed.
16. Y noson wedyn daeth Phaltiel, arweinydd y bobl, ataf a dweud: “Ble buost ti? A pham y mae golwg drist arnat?
17. A wyt yn anghofio bod Israel, yng ngwlad ei halltudiaeth, wedi ei hymddiried i ti?
18. Cod, felly, a bwyta ychydig fara; paid â'n gadael ni, fel bugail yn gadael ei braidd yng ngafael bleiddiaid milain.”
19. Dywedais innau wrtho: “Dos ymaith oddi wrthyf, ac am saith diwrnod paid â dod yn agos ataf; yna fe gei ddod ataf eto.” Ar ôl clywed fy ngeiriau aeth ef ymaith a'm gadael.
20. Am saith diwrnod bûm yn ymprydio, yn galaru ac yn wylo, fel y gorchmynnodd yr angel Uriel i mi.
21. Ymhen y saith diwrnod yr oedd meddyliau fy nghalon yn peri blinder mawr i mi unwaith eto,