2 Esdras 5:49-56 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

49. Ni all plentyn roi genedigaeth, nac ychwaith wraig sydd bellach wedi mynd yn hen; yn yr un modd yr wyf finnau wedi trefnu ar gyfer y byd a grewyd gennyf.”

50. Yna gofynnais ymhellach fel hyn: “Gan dy fod wedi agor y ffordd imi yn awr, a gaf fi barhau i siarad â thi? A yw ein mam ni, y soniaist wrthyf amdani, yn dal yn ifanc, ynteu a yw hi eisoes yn heneiddio?”

51. Atebodd ef: “Gofyn gwestiwn fel hyn i wraig sy'n planta:

52. ‘Pam nad yw'r plant yr esgoraist arnynt yn ddiweddar yn debyg i'r rhai a anwyd yn gynharach? Pam y maent yn llai eu taldra?’

53. Ac fe ddywed hi wrthyt: ‘Ni ellir cymharu y rhai a anwyd yng nghryfder ieuenctid â'r rhai a anwyd yn amser henaint, pan yw'r groth yn llesgáu.’

54. Felly ystyria dithau hefyd: yr ydych chwi yn llai eich maint na'r rhai a fu o'ch blaen chwi,

55. a bydd y rhai a ddaw ar eich ôl yn llai hyd yn oed na chwi, oherwydd y mae'r greadigaeth eisoes yn heneiddio ac yn colli cryfder ieuenctid.”

56. Meddwn innau: “Os wyf yn gymeradwy yn dy olwg di, Arglwydd, a gaf fi ofyn i ti ddangos imi trwy bwy yr ymweli â'th greadigaeth?”

2 Esdras 5