2 Esdras 5:21-38 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

21. Ymhen y saith diwrnod yr oedd meddyliau fy nghalon yn peri blinder mawr i mi unwaith eto,

22. ond adfeddiannodd fy enaid ysbryd deall, a thrachefn dechreuais lefaru wrth y Goruchaf.

23. “Arglwydd Iôr,” meddwn, “o bob coedwig drwy'r ddaear, ac o blith ei holl brennau yr wyt ti wedi dewis un winwydden;

24. o'r holl diroedd drwy'r byd cyfan dewisaist i ti dy hun un man i'w phlannu ynddo; o'r holl flodau sydd yn y byd dewisaist un lili i ti dy hun;

25. o holl ddyfnderoedd y môr llenwaist un afon i ti, ac o'r holl ddinasoedd a adeiladwyd cysegraist Seion i ti dy hun;

26. o'r holl adar a grewyd penodaist un golomen i ti dy hun, ac o'r holl anifeiliaid a luniwyd darperaist un ddafad ar dy gyfer dy hun;

27. o'r holl bobloedd, yn eu lluosogrwydd, mabwysiedaist un bobl i ti dy hun, ac i'r bobl hynny yr ymserchaist ynddynt rhoddaist gyfraith gymeradwy gan bawb.

28. Pam ynteu, Arglwydd, yr wyt yn awr wedi traddodi'r un bobl hon i ddwylo llaweroedd? Pam y dirmygaist yr un gwreiddyn yn fwy na'r lleill i gyd, ac y gwasgeraist dy unig bobl ymhlith lliaws?

29. Y mae'r rhai a fu'n gwrthod dy addewidion wedi sathru â'u traed y rhai a fu'n ymddiried yn dy gyfamodau.

30. Os wyt yn wir yn casáu dy bobl gymaint, dylit eu cosbi â'th ddwylo dy hun.”

31. Ar ôl imi orffen llefaru'r geiriau hyn, anfonwyd ataf yr angel a ddaethai ataf y noson flaenorol honno.

32. “Gwrando arnaf fi,” meddai, “ac fe'th ddysgaf; dal sylw, ac fe ddywedaf fwy wrthyt.”

33. “Llefara, f'arglwydd,” atebais innau.Meddai'r angel wrthyf: “Yr wyt yn drallodus iawn dy feddwl ynglŷn ag Israel. A yw dy gariad di tuag at Israel yn fwy na chariad Gwneuthurwr Israel?”

34. “Nac ydyw, f'arglwydd,” atebais innau, “ond o wir ofid y lleferais i; oherwydd yr wyf yn cael fy mhoenydio o'm mewn bob awr o'r dydd, wrth imi geisio deall ffordd y Goruchaf a dirnad rhyw ran o'i farnedigaethau ef.”

35. “Ni elli wneud hynny,” meddai wrthyf. “Pam, f'arglwydd?” atebais innau. “I ba beth, felly, y'm ganwyd? Pam na throes croth fy mam yn fedd imi? Yna ni chawswn weld poen Jacob a blinder plant Israel.”

36. Meddai ef: “Cyfrif imi y rheini sydd hyd yma heb eu geni, casgl ynghyd imi ddiferion gwasgaredig y glaw, a phâr i'r blodau a wywodd lasu unwaith eto;

37. agor imi yr ystafelloedd caeëdig, a dwg allan y gwyntoedd sydd wedi eu cloi o'u mewn, neu dangos imi lun llais; yna fe ddangosaf i ti y rheswm am y caledi hwn yr wyt yn gofyn am gael ei ddeall.”

38. “Ond, f'arglwydd feistr,” atebais i, “pwy a all fod â gwybodaeth felly ganddo, ond yr Un nad yw ei drigfa ymhlith dynion?

2 Esdras 5