2 Esdras 5:17-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. A wyt yn anghofio bod Israel, yng ngwlad ei halltudiaeth, wedi ei hymddiried i ti?

18. Cod, felly, a bwyta ychydig fara; paid â'n gadael ni, fel bugail yn gadael ei braidd yng ngafael bleiddiaid milain.”

19. Dywedais innau wrtho: “Dos ymaith oddi wrthyf, ac am saith diwrnod paid â dod yn agos ataf; yna fe gei ddod ataf eto.” Ar ôl clywed fy ngeiriau aeth ef ymaith a'm gadael.

20. Am saith diwrnod bûm yn ymprydio, yn galaru ac yn wylo, fel y gorchmynnodd yr angel Uriel i mi.

21. Ymhen y saith diwrnod yr oedd meddyliau fy nghalon yn peri blinder mawr i mi unwaith eto,

22. ond adfeddiannodd fy enaid ysbryd deall, a thrachefn dechreuais lefaru wrth y Goruchaf.

23. “Arglwydd Iôr,” meddwn, “o bob coedwig drwy'r ddaear, ac o blith ei holl brennau yr wyt ti wedi dewis un winwydden;

24. o'r holl diroedd drwy'r byd cyfan dewisaist i ti dy hun un man i'w phlannu ynddo; o'r holl flodau sydd yn y byd dewisaist un lili i ti dy hun;

25. o holl ddyfnderoedd y môr llenwaist un afon i ti, ac o'r holl ddinasoedd a adeiladwyd cysegraist Seion i ti dy hun;

26. o'r holl adar a grewyd penodaist un golomen i ti dy hun, ac o'r holl anifeiliaid a luniwyd darperaist un ddafad ar dy gyfer dy hun;

27. o'r holl bobloedd, yn eu lluosogrwydd, mabwysiedaist un bobl i ti dy hun, ac i'r bobl hynny yr ymserchaist ynddynt rhoddaist gyfraith gymeradwy gan bawb.

28. Pam ynteu, Arglwydd, yr wyt yn awr wedi traddodi'r un bobl hon i ddwylo llaweroedd? Pam y dirmygaist yr un gwreiddyn yn fwy na'r lleill i gyd, ac y gwasgeraist dy unig bobl ymhlith lliaws?

2 Esdras 5