2 Esdras 5:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. “Am yr arwyddion, fodd bynnag: edrych, fe ddaw'r amser pan gaiff trigolion y ddaear eu dal gan fraw mawr; cuddir ffordd gwirionedd, a bydd y tir yn ddiffrwyth o ffydd.

2. Bydd anghyfiawnder ar gynnydd, y tu hwnt i'r hyn yr wyt ti dy hun yn ei weld yn awr neu y clywaist amdano erioed.

3. Anghyfannedd a di-lwybr fydd y wlad yr wyt yn awr yn ei gweld yn teyrnasu; diffeithwch fydd hi yng ngolwg pobl.

4. Os caniatâ'r Goruchaf i ti fyw, cei dithau weld ei therfysg ar ôl y trydydd cyfnod. Yn sydyn bydd yr haul yn cynnau liw nos, a'r lleuad liw dydd.

5. Bydd gwaed yn diferu o'r coed, y cerrig yn llefaru, y bobloedd mewn cynnwrf, a chwrs y sêr yn cael ei newid.

2 Esdras 5