1. “Am yr arwyddion, fodd bynnag: edrych, fe ddaw'r amser pan gaiff trigolion y ddaear eu dal gan fraw mawr; cuddir ffordd gwirionedd, a bydd y tir yn ddiffrwyth o ffydd.
2. Bydd anghyfiawnder ar gynnydd, y tu hwnt i'r hyn yr wyt ti dy hun yn ei weld yn awr neu y clywaist amdano erioed.
3. Anghyfannedd a di-lwybr fydd y wlad yr wyt yn awr yn ei gweld yn teyrnasu; diffeithwch fydd hi yng ngolwg pobl.
4. Os caniatâ'r Goruchaf i ti fyw, cei dithau weld ei therfysg ar ôl y trydydd cyfnod. Yn sydyn bydd yr haul yn cynnau liw nos, a'r lleuad liw dydd.
5. Bydd gwaed yn diferu o'r coed, y cerrig yn llefaru, y bobloedd mewn cynnwrf, a chwrs y sêr yn cael ei newid.
6. Daw yn frenin un nad yw trigolion y ddaear yn ei ddisgwyl, ac fe eheda'r holl adar ymaith.
7. Bydd y Môr Marw yn bwrw pysgod i fyny; clywir llef liw nos nad yw'r lliaws yn ei deall, er i bawb ei chlywed.
8. Bydd agennau yn ymddangos mewn llawer lle, a thân yn saethu allan ohonynt yn fynych. Bydd anifeiliaid gwylltion yn cefnu ar eu cynefin, a gwragedd misglwyfus yn esgor ar angenfilod.
9. Ceir dŵr hallt mewn ffynhonnau o ddŵr croyw, a bydd cyfeillion yn ymosod bob un ar ei gilydd; yna cuddir y synhwyrau, a chilia deall i'w guddfan;
10. bydd llawer yn ei geisio ac yn methu ei gael; bydd anghyfiawnder ac anlladrwydd ar gynnydd dros wyneb y ddaear.
11. Bydd y naill wlad yn holi'r llall fel hyn: ‘A yw cyfiawnder, sy'n gwneud yr hyn sydd iawn, wedi tramwy trwot ti?’ A'r ateb fydd, ‘Nac ydyw.’
12. Y pryd hwnnw bydd pobl yn gobeithio, ond ni welant gyflawni eu gobeithion; yn llafurio, ond ni bydd eu ffyrdd yn llwyddo.
13. Dyna'r arwyddion y caniatawyd i mi eu hadrodd wrthyt; ond os bydd iti weddïo eto, a pharhau i wylo ac ymprydio am saith diwrnod, yna cei glywed ymhellach bethau myw na'r rhain.”
14. Yna deffrois, a'm corff yn crynu drwyddo; yr oeddwn mor drallodus fy meddwl fel y llewygais.