2 Esdras 4:45-47 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

45. eglura hyn i mi hefyd: a oes mwy i ddod nag a aeth heibio, neu a yw'r rhan fwyaf eisoes wedi mynd heibio i ni?

46. Oherwydd gwn beth sydd wedi mynd, ond ni wn beth sydd eto i ddod.”

47. Meddai yntau wrthyf: “Saf ar y llaw dde i mi; fe rof finnau ddehongliad iti o'r pos.”

2 Esdras 4