21. Oherwydd yn yr un modd yn union ag y mae'r tir wedi ei roi i'r coed a'r môr i'r tonnau, felly pethau'r ddaear yn unig y gall trigolion y ddaear eu deall; trigolion y nefoedd sy'n deall pethau goruchel y nefoedd.”
22. “Ond atolwg, f'arglwydd,” meddwn innau, “pam y rhoddwyd i mi gynneddf deall?
23. Oherwydd nid oedd yn fy mryd i holi am y ffyrdd sydd uchod, ond am y pethau hynny sydd yn digwydd bob dydd o flaen ein llygaid. Pam y rhoddwyd Israel yn destun gwawd i'r cenhedloedd? Pam yr ildiwyd y bobl a geraist ti i lwythau annuwiol? Pam y mae cyfraith ein tadau wedi ei gwneud yn ddiddim, a'r cyfamodau ysgrifenedig wedi eu colli?
24. Yr ydym yn diflannu o'r byd fel locustiaid, y mae ein heinioes fel tarth, ac nid ydym yn deilwng i dderbyn trugaredd.
25. Ond beth a wna ef er mwyn ei enw ei hun, yr enw y'n gelwir ni wrtho? Dyna fy nghwestiynau i.”
26. Atebodd ef fel hyn: “Os bydd iti oroesi, fe gei weld, ac os byddi byw, fe ryfeddi'n fynych, oherwydd y mae'r byd hwn yn prysur ddarfod.
27. Am ei fod yn llawn tristwch a llesgedd, ni all y byd hwn ddal y pethau a addawyd i'r rhai cyfiawn yn eu hiawn bryd.
28. Oherwydd y mae'r drwg yr wyt yn fy holi i amdano wedi ei hau, ond ni ddaeth amser ei fedi ef eto.
29. Hyd oni fedir yr hyn a heuwyd, a hyd oni ddiflanna'r lle yr heuwyd y drwg ynddo, nid ymddengys y maes lle'r heuwyd y da.
30. Heuwyd gronyn o had drwg yng nghalon Adda o'r dechreuad, a pha faint o annuwioldeb y mae eisoes wedi ei gynhyrchu, ac y bydd eto'n ei gynhyrchu hyd nes y daw amser dyrnu!
31. Cyfrif drosot dy hun gymaint o ffrwyth annuwioldeb y mae'r gronyn o had drwg wedi ei gynhyrchu.
32. Pan fydd hadau dirifedi o rawn da wedi eu hau, mor fawr y cynhaeaf a ddaw ohonynt hwy!”
33. Atebais innau: “Pa mor hir y mae'n rhaid aros? Pa bryd y digwydd hyn? Pam mai ychydig a drwg yw'n blynyddoedd ni?”