11. Sut felly y dichon dy feddwl di amgyffred ffordd y Goruchaf? Sut y gall un sydd wedi ei ysu gan y byd llygredig ddeall anllygredigaeth?”
12. Pan glywais hyn, syrthiais ar fy hyd, a dweud wrtho: “Buasai'n well i ni fod heb ein geni na dod i fyw yng nghanol annuwioldeb, a dioddef heb ddeall pam.”
13. Atebodd yntau fi fel hyn: “Euthum allan i goedwig, ac yno yr oedd prennau'r maes yn cynllwyn â'i gilydd.
14. ‘Dewch’, meddent, ‘awn i ryfel yn erbyn y môr, a pheri iddo gilio o'n blaen, inni gael gwneud rhagor o goedwigoedd inni ein hunain.’
15. Yn yr un modd cynllwyniodd tonnau'r môr hwythau â'i gilydd, a dweud, ‘Dewch, awn i fyny a threchu coed y maes, i ennill yno diriogaeth ychwanegol inni ein hunain.’
16. Ond ofer fu cynllwyn y coed, oherwydd daeth tân a'u difa hwy.
17. A'r un modd cynllwyn tonnau'r môr, oherwydd safodd y tywod yn ddiysgog a'u rhwystro hwy.
18. Yn awr, pe bait ti'n farnwr ar y rhain, p'run ohonynt y byddit ti am ei gyhoeddi'n ddieuog, a ph'run ei gondemnio?”
19. Atebais fel hyn: “Yn ofer y cynllwyniodd y naill a'r llall ohonynt; oherwydd pennwyd y tir i'r coed, a gwely'r môr i gario ei donnau ef.”
20. “Yr wyt wedi barnu'n gywir,” meddai yntau. “Pam, ynteu, na fernaist yn gywir yn dy achos dy hun?