8. Ond byw yn ôl ei hewyllys ei hun a wnaeth pob cenedl, gan ymddwyn yn annuwiol ac yn ddirmygus ger dy fron di; eto ni rwystraist hwy.
9. Ond yna, yn ei amser, fe ddygaist y dilyw ar ben trigolion y ddaear, a'u difetha.
10. Yr un oedd eu tynged hwy oll: fel y daeth marwolaeth ar Adda, felly hefyd y daeth y dilyw arnynt hwy.
11. Er hynny, arbedaist un ohonynt, Noa, ynghyd â'i deulu, a'r holl rai cyfiawn oedd yn ddisgynyddion iddo.
12. “Pan ddechreuodd trigolion y ddaear gynyddu, amlhawyd plant a phobloedd a chenhedloedd lawer, ac unwaith eto dechreusant wneud annuwioldeb, mwy hyd yn oed na'r cenedlaethau o'u blaen.
13. Felly, a hwythau yn gwneud drygioni ger dy fron, dewisaist i ti dy hun un ohonynt, o'r enw Abraham;
14. ceraist ef, ac iddo ef yn unig, yn ddirgel, liw nos, y datguddiaist ddiwedd yr amserau.
15. Gwnaethost gyfamod tragwyddol ag ef, gan addo iddo na fyddit byth yn ymadael â'i had ef; rhoddaist Isaac iddo, ac i Isaac rhoddaist Jacob ac Esau.
16. Neilltuaist Jacob i ti dy hun, ond bwrw Esau ymaith; ac aeth Jacob yn dyrfa fawr.
17. “Pan oeddit yn arwain ei ddisgynyddion allan o'r Aifft, fe'u dygaist at Fynydd Sinai;
18. yno gostyngaist yr wybren, ysgydwaist y ddaear, cynhyrfaist y byd, peraist i'r dyfnderoedd grynu, terfysgaist y cyfanfyd.