2 Esdras 3:8-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. Ond byw yn ôl ei hewyllys ei hun a wnaeth pob cenedl, gan ymddwyn yn annuwiol ac yn ddirmygus ger dy fron di; eto ni rwystraist hwy.

9. Ond yna, yn ei amser, fe ddygaist y dilyw ar ben trigolion y ddaear, a'u difetha.

10. Yr un oedd eu tynged hwy oll: fel y daeth marwolaeth ar Adda, felly hefyd y daeth y dilyw arnynt hwy.

11. Er hynny, arbedaist un ohonynt, Noa, ynghyd â'i deulu, a'r holl rai cyfiawn oedd yn ddisgynyddion iddo.

2 Esdras 3