20. Eto ni thynnaist eu calon ddrwg oddi wrthynt, er mwyn i'th gyfraith ddwyn ffrwyth ynddynt.
21. Oherwydd yr oedd yr Adda cyntaf wedi ei feichio â chalon ddrwg: cyflawnodd drosedd, ac fe'i gorchfygwyd; ac nid ef yn unig, ond ei holl ddisgynddion hefyd.
22. Felly aeth y gwendid yn beth parhaol, ac ynghyd â'r gyfraith yr oedd y drygioni gwreiddiol hefyd yng nghalonnau'r bobl; felly ymadawodd yr hyn sydd dda, ac arhosodd y drwg.
23. “Aeth cyfnodau heibio, a daeth y blynyddoedd i ben, ac yna codaist i ti dy hun was o'r enw Dafydd.
24. Gorchmynnaist iddo adeiladu dinas i ddwyn dy enw, ac i gyflwyno iti yno offrymau o blith yr hyn sy'n eiddo iti.
25. Hynny a fu am flynyddoedd lawer; ond yna aeth trigolion y ddinas ar gyfeiliorn,
26. gan ymddwyn ym mhob dim fel Adda a'i holl ddisgynyddion ef; oherwydd yr oedd ganddynt hwythau hefyd galon ddrwg.
27. Felly traddodaist dy ddinas dy hun i ddwylo dy elynion.