14. ceraist ef, ac iddo ef yn unig, yn ddirgel, liw nos, y datguddiaist ddiwedd yr amserau.
15. Gwnaethost gyfamod tragwyddol ag ef, gan addo iddo na fyddit byth yn ymadael â'i had ef; rhoddaist Isaac iddo, ac i Isaac rhoddaist Jacob ac Esau.
16. Neilltuaist Jacob i ti dy hun, ond bwrw Esau ymaith; ac aeth Jacob yn dyrfa fawr.
17. “Pan oeddit yn arwain ei ddisgynyddion allan o'r Aifft, fe'u dygaist at Fynydd Sinai;
18. yno gostyngaist yr wybren, ysgydwaist y ddaear, cynhyrfaist y byd, peraist i'r dyfnderoedd grynu, terfysgaist y cyfanfyd.
19. Daeth dy ogoniant drwy bedwar porth—tân, daeargryn, gwynt a rhew—er mwyn iti roi'r gyfraith i had Jacob a'r ddeddf i blant Israel.
20. Eto ni thynnaist eu calon ddrwg oddi wrthynt, er mwyn i'th gyfraith ddwyn ffrwyth ynddynt.
21. Oherwydd yr oedd yr Adda cyntaf wedi ei feichio â chalon ddrwg: cyflawnodd drosedd, ac fe'i gorchfygwyd; ac nid ef yn unig, ond ei holl ddisgynddion hefyd.
22. Felly aeth y gwendid yn beth parhaol, ac ynghyd â'r gyfraith yr oedd y drygioni gwreiddiol hefyd yng nghalonnau'r bobl; felly ymadawodd yr hyn sydd dda, ac arhosodd y drwg.