2 Esdras 2:46-48 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

46. Yna gofynnais i'r angel: “Pwy yw'r dyn ifanc acw sydd yn gosod coronau ar eu pennau a rhoi palmwydd yn eu dwylo?”

47. Fe'm hatebodd fel hyn: “Mab Duw yw ef, hwnnw y maent wedi ei gyffesu yn y byd hwn.” Dechreuais innau fawrygu'r rhai a safodd yn gadarn dros enw'r Arglwydd.

48. Yna dywedodd yr angel wrthyf: “Dos, a mynega i'm pobl natur a nifer y rhyfeddodau a welaist gan yr Arglwydd Dduw.”

2 Esdras 2